Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Ionawr 2019
Amser: 09.17 - 10.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5071
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC Neil McEvoy AC Leanne Wood AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.
Estynnodd y Cadeirydd bob cydymdeimlad ar ran y Pwyllgor i deulu a ffrindiau'r diweddar Steffan Lewis AC a fu farw ar 11 Ionawr 2019, a gwahoddodd y Pwyllgor i gymryd ennyd o amser i fyfyrio'n dawel.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ofyn pa asesiad a wnaed o effaith bosibl cynnydd mewn allyriadau o gerbydau ar hyd ffyrdd lleol pe bai Cyffordd 41 yn cael ei chau'n rhannol neu'n gyfan gwbl, ac a gasglwyd y data perthnasol ar allyriadau fel rhan o'r cyfnod prawf pan gaewyd y gyffordd yn flaenorol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar ymateb Llywodraeth Cymru cyn penderfynu a ddylid cymryd camau pellach o ran y ddeiseb.
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae'n gynghorydd lleol ac mae wedi ymwneud ag achosion unigol.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:
o Gomisiynydd Plant Cymru i ofyn am ei barn ar y ddeiseb, rhagor o wybodaeth am yr argymhellion perthnasol a wnaeth yn Adroddiad Blynyddol 2017/18 ac ymateb Llywodraeth Cymru, a'i barn am alwad y deisebydd am leoedd lle gall plant fynd i ddianc rhag camdriniaeth rywiol; a'r
o Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pa gyfleusterau sydd ar gael yng Nghymru ar gyfer diogelu plant sy'n rhoi gwybod am gamdriniaeth rywiol ac yn dianc rhagddi;
o Gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch a yw'r adolygiad o wasanaethau cynghori a sefydlwyd gan y Prif Weinidog blaenorol yn parhau.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg a chytunodd ar y camau a ganlyn:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg a chytunodd ar y camau a ganlyn:
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg er mwyn:
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
mae wedi gweithio fel athro cyflenwi yn y gorffennol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:
o ofyn am ymateb i'r cwestiynau pellach a ofynnwyd gan y deisebwyr;
o gofyn iddi egluro pam nad yw'n meddwl ar hyn o bryd y byddai'n addas cael trefniant sector cyhoeddus rhanbarthol neu leol o ran darparu athrawon cyflenwi; a
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y Gweinidog Addysg ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i gau'r ddeiseb yn sgil yr ymateb diamwys a gafwyd gan y Gweinidog Addysg a'r ffaith ei bod hi'n debyg nad oes gobaith gwirioneddol o newid yr agwedd hon ar bolisi cyllido myfyrwyr.
Trafododd y Pwyllgor ddatganiad ysgrifenedig ar y Polisi Echdynnu Petrolewm a chytunodd i ofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gadarnhau bod y Pwyllgor wedi deall yn gywir y byddai unrhyw gais newydd am drwydded i echdynnu petrolewm yn cael ei 'alw i mewn' gan Lywodraeth Cymru pe bai'r awdurdod lleol perthnasol yn bwriadu ei gymeradwyo.
Datganodd Janet Finch Saunders y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Bu'n gweithio ym maes gwerthu anifeiliaid anwes yn y gorffennol.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am bapur briffio ar y gwahaniaethau rhwng y rheoliadau ar werthu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru a Lloegr.
Tafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gau'r ddeiseb am fod Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi penderfynu peidio ag ymestyn unrhyw brydlesi ar gyfer hawliau saethu ffesantod ar ôl iddynt ddod i ben ym mis Mawrth 2019, yn dilyn ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru. Wrth wneud hynny, roedd y Pwyllgor am longyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i'w hanfon at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn gofyn am ei barn ar y materion a godwyd, a gofyn am gopi o'r adolygiad ynghylch atal ac ymchwilio i droseddau bywyd gwyllt yng Nghymru.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at:
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebwyr, a chytunodd i wahodd y deisebwyr i gyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol i drafod eu pryderon ynghylch cynigion yn ymwneud ag Ysbyty Tywysog Philip yn fanylach.
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae ganddo deulu a ffrindiau sy'n gweithio yn y diwydiant tacsis.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynglŷn â'r ddeiseb a chytunodd i anfon y wybodaeth a gafwyd gan y deisebwyr at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Papur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, a gofyn:
Datganodd Mike Hedges y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae ganddo deulu a ffrindiau sy'n gweithio yn y diwydiant tacsis.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynglŷn â'r ddeiseb a chytunodd i anfon y wybodaeth a gafwyd gan y deisebwyr at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y Papur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, a gofyn:
Datganodd Neil McEvoy y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae wedi defnyddio gwasanaeth FNF Both Parents Matter Cymru yn y gorffennol.
Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth oddi wrth Arweinydd y Tŷ ynghyd â sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd ar y camau a ganlyn: